Mae Cyngor Dinas Caerdydd wedi datblygu Canolfan Ymateb i Larymau Categori 1 flaengar a chyfoes. Oddi yma mae’r tîm Gwasanaethau 24/7 sy’n rheoli Teleofal Caerdydd, Concierge Tai a Wardeiniaid Lleol, ynghyd â gwasanaethau Diogelwch ac Ymateb yn gweithredu.
Mae’r system Teledu Cylch Cyfyng yn monitro ardaloedd cymunedol o ystafell reoli ganolog gyda thîm cyfeillgar cymwys, 24 awr y dydd a saith diwrnod yr wythnos. Mae camerâu yn cael eu rheoli a’u monitro mewn amser real, ac mae hyn yn galluogi ymateb priodol i ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae’r camera hefyd yn recordio ac mae’r deunydd ffilm ar gael ar gyfer tystiolaeth, yn unol â rheoliadau ansawdd cenedlaethol.
Mae camerâu cylch wedi dod yn fesur pwysig wrth atal trosedd ac ar gyfer diogelwch. Mae camerâu’n coladu delweddau a drosglwyddir at ddyfais recordio lle y maen nhw ar gael i’w gwylio, eu hadolygu ac/neu eu cadw.
Mae cadw delweddau yn golygu bod modd eu dadansoddi ar ôl digwyddiadau sydd o gymorth i’r sefydliadau gorfodi’r gyfraith sy’n eu harchwilio ac mae’n helpu i gadw manwl gywirdeb y cytundebau tenantiaeth ar ran y cyngor.
Amcan yr ARC yw rhoi amgylchedd brafiach a mwy diogel i holl drigolion blociau Fflatiau Uchel y Cyngor.